Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 1 Rhagfyr
2015
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3490
Cyhoeddodd y Llywydd fod Bil Llywodraeth Leol (Cymru) yn unol â Rheol Sefydlog 26.75 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 25 Tachwedd 2015.
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am benderfyniad Llywodraeth Cymru i dynnu cyllid yn ôl o’r West London Vocational Training College yn sgil yr ymchwiliad parhaus i honiadau ehangach o dwyll? EAQ(4)0663(ESK)
Dechreuodd yr eitem am 14.22
Dechreuodd yr eitem am 14.35
Dechreuodd yr eitem am 15.12
Dechreuodd yr eitem am 15.47
Dechreuodd yr eitem am 16.18
Dechreuodd yr eitem am 16.49
NDM5892 Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter, sy'n ymwneud â rhannu gwybodaeth am ardrethi annomestig gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.51
NDM5891 Edwina Hart (Gŵyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter sy'n ymwneud â'r Comisiynydd Busnesau Bach, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.53
NDM5895 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) 2015 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Hydref 2015.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.57
NDM5894 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Hydref 2015.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Nid oedd cyfnod pleidleisio.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.01
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 2 Rhagfyr 2015